{"id":1302,"date":"2018-10-11T09:46:50","date_gmt":"2018-10-11T09:46:50","guid":{"rendered":"http:\/\/pensions.cardiffcouncilwebteam.co.uk\/?page_id=1302"},"modified":"2022-04-11T11:05:22","modified_gmt":"2022-04-11T11:05:22","slug":"diogelu-data","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.cardiffandvalepensionfund.org.uk\/cy\/amdanom-ni\/diogelu-data\/","title":{"rendered":"Diogelu Data"},"content":{"rendered":"

[vc_row][vc_column][vc_column_text]<\/p>\n

Diogelu Data<\/h1>\n

Mae\u2019r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn cynnwys cyfres newydd o reoliadau\u2019r Undeb Ewropeaidd (UE) a ddaeth i rym ar 25 Mai 2018. Bydd y rheoliadau newydd hyn yn newid y ffordd y mae sefydliadau\u2019n prosesu ac yn ymdrin \u00e2 data, gyda\u2019r nod allweddol o gynnig mwy o ddiogelwch a hawliau i unigolion.<\/p>\n

Hysbysiad Prefatrwydd <\/a><\/p>\n

Hysbysiad Prefatrwydd Cryno<\/a><\/i><\/p>\n

A fydd y GDPR dal yn berthnasol i\u2019r DU ar \u00f4l Brexit?<\/h2>\n

Mae\u2019r DU yn y broses o weithredu Bil Diogelu Data newydd sydd gan fwyaf yn cynnwys holl ddarpariaethau\u2019r GDPR. Mae rhai gwahaniaethau bach, ond ar \u00f4l i\u2019r Bil gael ei basio drwy\u2019r Senedd a dod yn Ddeddf, bydd cyfraith y DU ar ddiogelu data i raddau helaeth yr un fath \u00e2 chyfraith y GDPR.<\/p>\n

Felly beth sy\u2019n newydd?<\/h2>\n

Mae hawliau newydd ac estynedig ar gyfer unigolion yngl\u0177n \u00e2\u2019r data personol y mae sefydliad yn ei ddal amdanynt, er enghraifft, hawl estynedig i gael mynediad, yn ogystal \u00e2 hawl newydd i gludadwyedd data. Gallwch gael gwybodaeth bellach am yr hawliau hyn gan Swyddfa\u2019r Comisiynydd Gwybodaeth <\/i><\/a> neu drwy eu llinell gymorth dros y ff\u00f4n (0303 123 1113)<\/p>\n

Yn ogystal \u00e2 hynny, bydd gan sefydliadau rwymedigaeth i reoli data\u2019n well a chaiff cyfundrefn newydd o ddirwyon ei chyflwyno i\u2019w defnyddio pan ganfyddir bod sefydliad wedi torri\u2019r GDPR.<\/p>\n

Beth yw prif egwyddorion y GDPR?<\/h2>\n

Mae\u2019r GDPR yn nodi bod yn rhaid i ddata personol:<\/p>\n