{"id":2166,"date":"2018-12-18T15:22:44","date_gmt":"2018-12-18T15:22:44","guid":{"rendered":"http:\/\/www.cardiffandvalepensionfund.org.uk\/?page_id=2166"},"modified":"2023-12-28T15:43:00","modified_gmt":"2023-12-28T15:43:00","slug":"pensiynwr-newydd","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.cardiffandvalepensionfund.org.uk\/cy\/pensiynwyr\/pensiynwr-newydd\/","title":{"rendered":"Pensiynwr Newydd"},"content":{"rendered":"

[vc_row top_padding=”0″ bottom_padding=”0″][vc_column width=”1\/1″][vc_column_text]<\/p>\n

Pensiynwr Newydd<\/h1>\n

[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row top_padding=”35″][vc_column width=”2\/3″][vc_column_text]Gall gwneud penderfyniad i ymddeol fod yn adeg heriol a llawn straen, a heb os, bydd gennych chi lawer o gwestiynau.\u00a0 Rydym ni yma, yng Nghronfa Pensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg, yn dymuno gwneud y cofnod pontio hwn mor esmwyth \u00e2 phosibl ichi, ac rydym ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych. Gallwn ni hefyd eich helpu i lenwi\u2019r gwaith papur.<\/p>\n

Fodd bynnag, ni all Cronfa Pensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg rhoi unrhyw gyngor ariannol ichi.\u00a0 Os oes angen Cyngor Ariannol Annibynnol arnoch, wrth wneud penderfyniadau ynghylch eich ymddeoliad, ewch i Unbiased\u00a0<\/i><\/a>.<\/p>\n

 <\/p>\n

Sut mae gwneud cais i Ymddeol?<\/strong><\/p>\n

Cewch ymddeol unrhyw bryd ar \u00f4l troi\u2019n 55 oed, neu ar unrhyw oedran os ydych yn bodloni meini prawf ar gyfer ymddeol oherwydd salwch \u2013 os ydych yn credu eich bod yn bodloni\u2019r meini prawf salwch, cysylltwch \u00e2\u2019ch Cyflogwr i gael rhagor o wybodaeth.<\/p>\n

Os penderfynwch ymddeol, mae angen ichi roi gwybod i\u2019ch Cyflogwr.\u00a0 Ar \u00f4l i\u2019ch Cyflogwr gadarnhau eich penderfyniad, byddwn yn anfon eich ffigurau ymddeol atoch, ynghyd \u00e2\u2019r dewisiadau sydd ar gael ichi, a hefyd unrhyw ffurflenni y bydd angen ichi eu llenwi i\u2019ch cyfeiriad cartref.<\/p>\n

Pa wybodaeth sydd ei hangen i brosesu fy ymddeoliad?<\/strong><\/p>\n

Bydd angen ichi lenwi\u2019r holl ffurflenni ymddeol a anfonir atoch gyda\u2019ch ffigurau ymddeol a\u2019u dychwelyd i Gronfa Pensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg, yn ogystal ag unrhyw ddogfennau y gofynnwyd amdanyn nhw gyda\u2019r ffurflenni \u2013 er enghraifft:<\/p>\n