{"id":2503,"date":"2019-02-11T15:28:59","date_gmt":"2019-02-11T15:28:59","guid":{"rendered":"http:\/\/www.cardiffandvalepensionfund.org.uk\/?p=2503"},"modified":"2019-03-01T11:15:52","modified_gmt":"2019-03-01T11:15:52","slug":"rheolydd-pensiynaun-rhybuddio-am-dwyllwyr-a-galwadau-diofyn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.cardiffandvalepensionfund.org.uk\/cy\/2019\/02\/rheolydd-pensiynaun-rhybuddio-am-dwyllwyr-a-galwadau-diofyn\/","title":{"rendered":"Rheolydd Pensiynau\u2019n rhybuddio am dwyllwyr a galwadau diofyn"},"content":{"rendered":"
Mae\u2019r Rheolydd Pensiynau (TPR) wedi rhybuddio am dwyllwyr sy\u2019n ceisio o bosibl ddwyn cynilion gweithwyr trwy honni\u2019n dwyllodrus eu bod yn ffonio o\u2019r Rheolydd Pensiynau.<\/p>\n
Mae\u2019r TPR wedi derbyn adroddiadau am ddeiliaid pensiynau\u2019n cael galwadau diofyn gan unigolion sy\u2019n esgus mai staff TPR ydynt, gan gynnig \u2018adolygiad pensiwn am ddim\u2019 i\u2019r gweithwyr. Mae TPR wedi cadarnhau bod hyn yn arwydd rhybudd cyffredin o sgam gan na fydd TPR byth yn ffonio unigolion yn ddiofyn am eu pensiynau. Mae TPR wedi adrodd am yr achosion i Swyddfa\u2019r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) i\u2019w harchwilio a byddant hefyd yn adrodd am unrhyw achosion yn y dyfodol.<\/p>\n
Mae TPR wedi rhoi gwybod i ddeiliaid pensiynau, os c\u00e2nt alwad ddiofyn am eu pensiwn, neu eu bod yn credu y gallant fod wedi dioddef o dwyll pensiynau, i gysylltu ag Action Fraud ar 0300 1232040.<\/p>\n