Croeso i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg

Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol cenedlaethol.  Gall staff Cyngor Dinas Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Coleg Caerdydd a’r Fro a nifer o gyrff gwasanaethau cyhoeddus eraill nad ydynt yn addysgu ymaelodi.

Gweinyddir y Gronfa gan Adran Bensiynau Cyngor Dinas Caerdydd.

Oherwydd yr achosion diweddar o COVID-19, mae’r Adran Bensiynau wedi gorfod addasu eu patrymau gwaith er mwyn sicrhau parhad y gwasanaeth i aelodau’r cynllun a Chyflogwyr y Gronfa sy’n cymryd rhan ynddi.

O ganlyniad, efallai y bydd oedi wrth ymateb i’ch ceisiadau wrth i ni flaenoriaethu ein gwaith achos. Gwerthfawrogir eich dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn yn fawr. Y ffordd orau o gyfathrebu â ni ar hyn o bryd yw yn electronig. Ein cyfeiriad e-bost yw pensiynau@caerdydd.gov.uk Byddwn yn ymateb mor gyflym ag y gallwn.

Ar hyn o bryd, os bydd angen i chi anfon unrhyw ddogfennau neu ffurflenni atom, byddwn yn derbyn copïau wedi’u sganio neu ffotograffau. Gellir anfon dogfennau atom drwy e-bost fel atodiad.

Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg hefyd yn cynnal ei gwefan ei hun www.cardiffandvalepensionfund.org.uk/lle gallwch gael gwybodaeth am y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg a lle gallwch lawrlwytho ffurflenni. Hefyd, mae gwefan genedlaethol aelodau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gael yma www.lgpsmember.org lle gallwch gyrchu gwahanol gyfrifianellau a ffurflenni. Efallai y bydd yr adnoddau hyn yn rhoi’r ateb yr ydych yn chwilio amdano, felly cofiwch eu defnyddio.

Mae nifer cyfyngedig o staff yn y Swyddfa ar y rhan fwyaf o ddyddiau ac efallai y bydd yn rhaid i ni weithio oriau gwaith llai. Os bydd angen i chi ffonio ni ein rhif ffôn yw 029 2087 2334 ac efallai y gofynnir i chi adael neges. Os yw eich cais yn un brys, byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn i’ch helpu gyda’ch ymholiadau.

Dysgwch fwy am eich opsiynau pensiwn

Aelod wedi’i ohirio

Beth i’w wneud os oeddech yn aelod ar un adeg a’ch bod wedi gadael eich buddion pensiwn nes eu bod yn daladwy neu’n cael eu trosglwyddo.

Pensiynwyr

Gwybodaeth os ydych ar fin dderbyn eich pensiwn neu os ydych eisoes yn derbyn eich pensiwn.

Cynghorwyr

Dysgwch sut gall y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fod o fudd i chi fel Cynghorydd.

Cyflogwyr

Canllaw i Awdurdodau Cyflogi sy’n cynnig y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) i’w cyflogeion.

Dechreuwch gynilo at y dyfodol trwy ymuno heddiw

Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.

Top

© Cronfa Bensiwn Caerdydd a’r Bro Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi PreifatrwyddPolisi Cwcis