Absennol o’r gwaith
Os ydych wedi bod yn absennol o’r gwaith heb dâl, oherwydd absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu di-dâl, neu absenoldeb rhiant a rennir di-dâl a ddechreuodd o 01 Ebrill 2026 neu’n hwyrach, ni fydd angen i chi brynu pensiwn coll yn ôl. Byddwch yn parhau i adeiladu pensiwn fel pe baech chi’n derbyn cyflog arferol.
Os ydych yn absennol o’r gwaith heb dâl am unrhyw reswm arall, bydd yr absenoldebau hyn yn effeithio ar gronni eich pensiwn. Fodd bynnag, pan fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith bydd eich cyflogwr bob amser yn rhoi’r opsiwn i chi brynu unrhyw bensiwn a gollwyd yn ôl – ar yr amod bod eich absenoldeb wedi’i awdurdodi.
Absenoldebau hyd at 14 diwrnod
Ar gyfer absenoldebau di-dâl awdurdodedig o hyd at 14 diwrnod, byddwch chi a’ch cyflogwr yn parhau i dalu cyfraniadau pensiwn, a byddwch yn cronni pensiwn ar gyfer y seibiannau byr hyn. (Nid yw seibiant streic yn cyfrif yn awtomatig at ddibenion pensiwn waeth beth fo’i hyd).
Absenoldebau o 15 diwrnod neu fwy
Ar gyfer absenoldebau di-dâl awdurdodedig o 15 diwrnod neu fwy, ni fyddwch yn talu cyfraniadau. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn cronni unrhyw bensiwn yn ystod y cyfnod hwn. Gallwch ddewis prynu rhywfaint o’r pensiwn a gollwyd yn ôl, neu’r cyfan, drwy Drefniant Pensiwn Ychwanegol Cymwys (TPYCau), lle rydych chi’n talu yr un faint â’r hyn y byddech wedi ei dalu pe baech wedi bod yn y gwaith yn ystod y cyfnod hwnnw. Gellir talu’r cyfraniadau trwy gyfandaliad neu ddidyniadau rheolaidd o’ch tâl. Bydd eich cyflogwr yn rhoi gwybod i chi am y gost a’ch opsiynau talu. Bydd gennych flwyddyn ar ôl dychwelyd i’r gwaith i ddweud wrth eich cyflogwr eich bod am dalu TPYCau. Bydd unrhyw bensiwn a gollwyd rydych chi’n ei brynu’n ôl yn cyfrif tuag at bensiynau goroeswyr, ac ni fydd yn cael ei ostwng os byddwch yn ymddeol ar sail dileu swydd neu effeithlonrwydd. Nid oes angen adroddiad meddygol i dalu TPYC.
Bydd yr absenoldebau hyn yn cael eu trin yn y ffordd ganlynol:
Salwch – NI fydd effaith ar eich pensiwn hyd yn oed os byddwch yn mynd i mewn i gyfnod ‘dim tâl’
Mamolaeth, mabwysiadu neu dadolaeth – NI fydd effaith ar eich pensiwn hyd yn oed os byddwch yn mynd i mewn i gyfnod ‘dim tâl’
Diwrnodau streic – bydd effaith ar eich pensiwn, ond byddwch yn cael yr opsiwn i brynu pensiwn coll yn ôl, ond byddwch yn talu’r HOLL gostau adfer
Gwasanaeth y Rheithgor – bydd effaith ar eich pensiwn, ond byddwch yn cael yr opsiwn i brynu pensiwn coll yn ôl
Dyletswydd Lluoedd Wrth Gefn – Os ydych ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn a’ch bod yn dewis aros yn y CPLlL, bydd eich pensiwn yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio eich tâl pensiynadwy tybiedig. Mae defnyddio eich tâl pensiynadwy tybiedig yn sicrhau y byddwch yn parhau i gronni pensiwn fel pe baech chi yn y gwaith yn hytrach nag ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn. Mae angen i’ch cyflogwr ddweud wrthych swm y cyfraniadau pensiwn sylfaenol y mae’n rhaid i chi a’r Weinyddiaeth Amddiffyn eu talu