Ailgofrestru’n Awtomatig – 1 Ebrill 2019

Ailgofrestru’n Awtomatig – 1 Ebrill 2019

Arweiniodd Deddf Bensiynau 2008, a gyflwynodd Llywodraeth y DU i helpu pobl i gynilo ar gyfer eu hymddeoliad, at gyflwyno’r Cofrestru Awtomatig ar gyfer Pensiwn.

Ers 1 Chwefror 2013, mae’r Cyngor wedi cofrestru cyflogeion newydd ar gynllun pensiwn perthnasol h.y. Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu Gynllun Pensiwn Athrawon ar gyfer pob cyfnod talu.

Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar y Cyngor i Ailgofrestru cyflogeion ar y cynllun pensiwn perthnasol ar ôl y drydedd flwyddyn wedi dyddian diwrnod gweithredu’r Cyngor.

Er mwyn cynnal ein rhwymedigaeth gyfreithiol, cynhelir asesiad o gyflogeion i benderfynu pwy fydd angen ei Ailgofrestru ar ein dyddiad Ailgofrestru sef 1 Ebrill
2019.

Mae Ailgofrestru cyflogeion yn awtomatig ar y cynllun pensiwn yn berthnasol i bob cyflogai nad yw’n rhan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol na Chynllun Pensiwn Athrawon ac sydd:

  • Wedi gadael y cynllun pensiwn mwy na 12 mis cyn y dyddiad Ailgofrestru ym mis Ebrill 2019
  • Rhwng 22 oed ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • Ag enillion h.y. maent yn ennill o leiaf £833.00 fesul cyfnod talu
  • Wedi aros yn y cynllun pensiwn ond sydd wedi dewis i ostwng lefel eu cyfraniadau pensiwn (Dewis 50/50)

Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf uchod, byddwn yn eich cofrestru ar y Cynllun Pensiwn perthnasol ar 1 Ebrill 2019.

Cynhelir asesiad o gyflogeion ymlaen llaw ym mis Chwefror 2019. Yna bydd y Cyngor yn ysgrifennu at y cyflogeion hynny i roi gwybod iddynt y gallent gael eu hailgofrestru ar gynllun pensiwn os byddant yn bodloni’r un meini prawf pan gynhelir yr asesiad terfynol ym mis Ebrill 2019.

Ar ôl cynnal yr asesiad terfynol, mae gan y Cyngor gyfnod o 6 wythnos o’r dyddiad ailgofrestru i roi gwybod i gyflogeion eu bod wedi eu rhoi yn ôl ar gynllun pensiwn.

Nid yw’n ofynnol i’r Cyngor ysgrifennu at y rheiny na chant eu rhoi yn ôl ar gynllun pensiwn.

Mae gennych yr hawl i ymuno â chynllun pensiwn ar unrhyw adeg cyn 1 Ebrill 2019 drwy optio i mewn os dymunwch.

Os ydych yn dymuno ymuno â’r naill gynllun pensiwn, bydd yn rhaid I chi gwblhau ffurflen optio i mewn.

Gellir cael gafael ar hon ar-lein www.teacherspensions.co.uk / drwy gysylltu ag Adran Bensiynau, Ystafell 252, Neuadd y Sir, Caerdydd CF10 4UW. Ffôn: 029 2087 2334, drwy e-bost yn pensiynau@caerdydd.gov.uk neu drwy fynd i’w gwefan yn www.cardiffandvalepensionfund.org.uk

Wedi Ailgofrestru, ond nid cyn hynny, cewch ddewis optio allan o’r cynllun, ond os arhoswch i mewn, bydd gennych bensiwn a fydd yn cael ei dalu i chi pan fyddwch yn ymddeol.

Byddwch chi a’r Cyngor yn talu I mewn i’r gronfa bensiynau bob mis. Os ydych yn drethdalwr, bydd y Llywodraeth hefyd yn cyfrannu drwy ostyngiad treth.

AILGOFRESTRU AR GYFER PENSIWN EBRILL 2019 – CWESTIYNAU CYFFREDIN

Mae Cyngor Caerdydd yn ymrwymedig i gefnogi cyflogeion er mwn sicrhau y gall pawb gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt. Lluniwyd y Cwestiynau Cyffredin hyn i egluro’r broses o Ailgofrestru ar gyfer Pensiwn a fydd yn digwydd ym mis Ebrill 2019.

1. Beth yw Ailgofrestru ar gyfer Pensiwn?
Ailgofrestru yw’r broses pan fydd yn rhaid i’r cyflogwyr ailgofrestru cyflogeion sydd wedi “Optio Allan” neu sydd wedi terfynu aelodaeth weithredol o gynllun pensiwn perthnasol o’u gwirfodd, h.y. Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu Gynllun Pensiwn Athrawon, ar gyfer pob cyfnod talu.

2. Pam mae hyn yn digwydd?
Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno’r ddeddf newydd (Deddf Pensiynau 2008) i helpu pobl i gynilo rhagor ar gyfer eu hymddeoliad. Nod y Llywodraeth yw sicrhau bod mwy o bobl yn derbyn incwm ychwanegol ar ben eu Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddant yn ymddeol.

3. Beth sy’n digwydd ym mis Ebrill 2019?
Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar y Cyngor i Ailgofrestru cyflogeion ar y cynllun pensiwn perthnasol ar ôl y drydedd flwyddyn wedi dyddiad diwrnod gweithredu’r Cyngor.

4. A fydd pawb yn cael eu cofrestru ar bensiwn y gweithle ym mis Ebrill 2019?
Mae Ailgofrestru cyflogeion ar y cynllun pensiwn yn berthnasol i bob cyflogai nad yw’n rhan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol na Chynllun Pensiwn Athrawon ac sydd:

 Wedi gadael y cynllun pensiwn mwy na 12 mis cyn y dyddiad Ailgofrestru ym mis Ebrill 2019
 Rhwng 22 oed ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth
 Ag enillion h.y. maent yn ennill o leiaf £833.00 fesul cyfnod talu
 Wedi aros yn y cynllun pensiwn ond sydd wedi dewis i ostwng lefel eu cyfraniadau pensiwn (Dewis 50/50) (gweler C7)

Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf uchod, byddwn yn eich cofrestru ar y Cynllun Pensiwn perthnasol ar 1 Ebrill 2019 (Ond gweler C9).

5. Beth os bydd gennyf fwy nag un swydd yn y Cyngor?
Byddwch yn cael eich ailgofrestru ar gyfer pob swydd sydd gennych yn y Cyngor os bodlonir y meini prawf uchod.

6. A fydd hyn yn berthnasol i gyflogeion Caerdydd Ar Waith cymwys?
Bydd.

7. Rwyf wedi optio ar gyfer adran 50/50 Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Beth mae hyn yn ei olygu i mi?
Bwriedir i’r adran 50/50 fod ar gyfer y tymor byr, ac mae rhaid i ni eich ailgofrestru yn ôl ar brif adran y cynllun bob tair blynedd. Gallwch hefyd ddychwelyd i brif adran Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar unrhyw adeg drwy gael gafael ar ffurflen ddethol drwy gysylltu â’r Adran Bensiynau, Ystafell 252, Neuadd y Sir, Caerdydd, CF10 4UW. Ffôn: 029 2087 2334, drwy e-bost yn pensiynau@caerdydd.gov.uk neu drwy fynd i’w gwefan yn www.cardiffandvalepensionfund.org.uk

8. Beth os wyf am barhau gydag adran 50/50?
Os hoffech barhau gydag adran 50/50 bydd angen i chi wneud detholiad arall. Bydd angen ichi gysylltu â’r Adran Bensiynau, Ystafell 252, Neuadd y Sir, Caerdydd, CF10 4UW. Ffôn: 029 2087 2334, drwy e-bost yn pensiynau@caerdydd.gov.uk
Neu drwy ymweld â’u gwefan www.cardiffandvalepensionfund.org.uk

9. A gaf i ymuno â’r cynllun pensiwn yn y gweithle cyn mis Ebrill 2019?
Cewch. Ar yr amod eich bod yn gyflogai y Cyngor, cewch optio i mewn i gynllun pensiwn perthnasol ar unrhyw adeg. Os ydych yn dymuno ymuno â’r naill gynllun pensiwn, bydd yn rhaid ichi gwblhau ffurflen optio i mewn. Gellir cael gafael ar www.teacherspensions.co.uk / drwy gysylltu â’r Adran Bensiynau, Ystafell 252, Neuadd y Sir, Caerdydd CF10 4UW. Ffôn: 029 2087 2334, drwy e-bostio pensiynau@caerdydd.gov.uk neu drwy fynd i’w gwefan yn www.cardiffandvalepensionfund.org.uk

10. Beth fydd yn digwydd nesaf?
Cynhelir asesiad o gyflogeion ymlaen llaw ym mis Chwefror 2019 ar sail y meini prawf a nodir yn C4.
Yna bydd y Cyngor yn ysgrifennu at y cyflogeion hynny i roi gwybod iddynt y gallent gael eu hailgofrestru ar gynllun pensiwn os byddant yn bodloni’r un meini prawf pan gynhelir yr asesiad terfynol ym mis Ebrill 2019.

11. Beth i’w wneud os bydd gennyf lythyr?
Mae’r llythyr hwn er gwybodaeth yn unig.

12. Beth fydd yn digwydd ym mis Ebrill 2019?
Cynhelir asesiad terfynol o gyflogeion i benderfynu pwy gaiff ei ailgofrestru’n awtomatig ar bensiwn yn y gweithle ym mis Ebrill 2019. Yna bydd y Cyngor yn ysgrifennu at y cyflogeion hynny i gadarnhau’r cynllun pensiwn y maent yn cael eu cofrestru arno o 1 Ebrill 2019 ymlaen.

13. Pryd y caf i lythyr?
Mae gan y Cyngor gyfnod o 6 wythnos o’r dyddiad ailgofrestru i roi gwybod i gyflogeion eu bod wedi eu rhoi yn ôl ar gynllun pensiwn.
Nid yw’n ofynnol i’r Cyngor ysgrifennu at y rheiny na chânt eu rhoi yn ôl ar gynllun pensiwn.

14. Os wyf yn aelod o’r cynllun pensiwn yn y gweithle, sut y caf i wybod beth fydd fy mhensiwn pan fyddaf yn ymddeol?
Mae’r cyflogeion hynny sy’n rhan o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a Chynllun Pensiwn Caerdydd a’r Fro yn cael Datganiad Buddion Blynyddol bob mis Awst. Gall y cyflogeion hynny sy’n rhan o Gronfa Bensiwn Athrawon gael gafael ar eu datganiadau drwy borth Pensiynau Athrawon ar-lein yn http://www.teacherspensions.co.uk. Mae hyn yn dangos i chi faint o bensiwn sydd wedi ei gronni hyd yn hyn a faint allech ei gael pan fyddwch yn cyrraedd oedran pensiwn y cynllun.

15. Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth ar y cynlluniau pensiwn?
Mae gwybodaeth ar y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a Chronfa Bensiwn Caerdydd a’r Fro ar gael ar fewnrwyd y Cyngor neu drwy gysylltu a’r Adran Bensiynau, Ystafell 252, Neuadd y Sir, Caerdydd, CF10 4UW. Ffôn: 029 2087 2334, drwy e-bostio pensiynau@caerdydd.gov.uk neu drwy fynd ar eu gwefan www.cardiffandvalepensionfund.org.uk. Ceir gwybodaeth gyffredinol ar Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn www.lgpsmember.org

Am y rheiny sydd ar Gronfa Bensiwn Athrawon, mae gwybodaeth ar gael gan y Teachers Pension Scheme, 11b Lingfield Point, Darlington, DL1 1AX.

Ffôn: 0345 6066166
neu e-bostiwch i tpwebadmin@teacherspensions.co.uk

16. Ble allaf gael gafael ar wybodaeth fwy cyffredinol ar bensiynau?
Ceir gwybodaeth gyffredinol am bensiynau a chynilo ar gyfer cyfnod diweddarach yn eich bywyd:
https://www.gov.uk/workplace-pensions

Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.

Top

© Cronfa Bensiwn Caerdydd a’r Bro Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi PreifatrwyddPolisi Cwcis