Llywodraethir pob cynllun pensiwn gan reoliadau sy’n nodi pryd a sut y gellir talu eich buddion pensiwn. Mae’r rheoliadau hyn ar waith i ddiogelu eich buddion yn barod am eich ymddeoliad.
Mae rheoliadau yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn caniatáu ichi ymddeol o’ch gwirfodd o 55 oed ymlaen. Fodd bynnag, os byddwch yn rhy sâl i weithio gellir talu eich pensiwn yn gynharach – bydd angen cytuno ar hyn gydag Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol y Gronfa.
Cadwch y twyllwyr yn bell o’ch ymddeoliad!
Os daw cwmni atoch yn dweud y gallant hawlio eich pensiwn yn gynharach – mae’n rhaid ichi fod yn ofalus iawn, gallent fod yn dwyllwyr. Peidiwch â chredu y gallant eich helpu i gael gafael ar eich pensiwn yn gynnar oherwydd bwlch yn y gyfraith, gan NAD yw hyn yn wir.
Os penderfynwch drosglwyddo eich arian o’r CPLlL i un o’r cynlluniau hyn, gwiriwch yr holl ffioedd a thaliadau a all fod yn daladwy o’ch cynilion pensiwn. Gallai fod treth uchel i’w thalu hefyd, gan y telir eich buddion pensiwn yn gynharach nag y dylent. O ganlyniad i hyn, gallwch golli’r rhan fwyaf o’ch cynilion pensiwn neu’r cyfan hyd yn oed! Felly peidiwch â chael eich dal yn y twyll pensiwn hwn!
Ystyriwch gael Cyngor Ariannol Annibynnol bob tro cyn gwneud unrhyw benderfyniad i drosglwyddo eich buddion o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Am ragor o wybodaeth ewch i The Pension Regulator
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.